Mae pennaeth elusen blant yng Nghymru wedi galw am fwy o weithredu ar ôl i 136 o droseddau ‘cysylltu’n rhywiol gyda phlentyn’ gael eu cofnodi o fewn chwe mis cynta’ deddf newydd.

Ond, yn ôl Des Mannion, Pennaeth NSPCC Cymru, mae angen gwneud mwy na dibynnu ar yr heddlu i atal y broblem.

Mae’n dweud bod gan y cwmnïau technoleg y gallu eisoes i weithredu ac y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno cod newydd  a rheoleiddiwr swyddogol i orfodi gwefannau cymdeithasol i warchod defnyddwyr ifanc.

Os na fydden nhw’n gwneud hynny, fe ddylen nhw gael eu cosbi, meddai Des Mannion mewn llythyr agored i’r wasg.

Y ffigurau yng Nghymru

Dim ond ym mis Ebrill 2017 y daeth deddf i rym sy’n ei gwneud yn anghyfreithlon i gysylltu gyda phlentyn mewn ffordd rywiol – cyn hynny doedd dim modd i’r heddlu ymyrryd nes bod y troseddwyr a’r plant yn cwrdd.

Erbyn Hydref 2017, roedd 136 o droseddau wedi dod i sylw’r heddlu yng Nghymru gyda rhai o’r plant mor ifanc â saith oed.

Dyma’r ffigurau fesul heddlu:

De Cymru            74

Gogledd Cymru  23

Gwent                  20

Dyfed-Powys      19

Yn ôl Des Mannion, maen angen gwneud mwy yn awr i atal y ‘paratoi rhywiol’ – grooming – rhag digwydd yn y lle cynta’, yn hytrach na dibynnu ar yr heddlu i weithredu wedyn.