Mae myfyriwr  a ffarmwr 20 oed o Drawsfynydd wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn barod i “frwydro nes bwrw’r maen i’r wal” er mwyn sicrhau pwerau tros ddarlledu i Gymru.

Fe fydd Elfed Wyn Jones, mab fferm, yn mynd heb fwyd am saith niwrnod o ddydd Mawrth yr wythnos nesa’ er mwyn pwyso am ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.

Daw’r brotest ar drothwy cyhoeddi adroddiad adolygiad annibynnol o S4C, sydd i fod i ystyried datganoli pwerau tros ddarlledu o San Steffan i Fae Caerdydd.

‘Dim ond dŵr tap’

Dywedodd Elfed Wyn Jones y byddai ymprydio’n “anodd” ac mai “dim ond dŵr tap” y byddai’n ei yfed: “Fydda i’n gweld isio popeth o fy mhowlen uwd yn y bore i fy nhaten trwy’i chroen gyda’r nos.

“Ond wrth feddwl am beth fydd hyn yn ei gyflawni ar gyfer pobol Cymru – gwell ddemocratiaeth, gwybodaeth gliriach, gwell teledu yn Gymraeg ac yn Saesneg, fydd hynny’n rhoi cryfder i fi frwydro nes bwrw’r maen i’r wal.”

Rydw i’n gobeithio y bydd fy ngweithred yn dangos mor ddifrifol yw’r angen i gael rheolaeth yng Nghymru ar ddarlledu.

“O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli y cyfryngau er budd pobol Cymru.

“Dydan ni ddim yn gweld y persbectif Cymreig yn ein newyddion a’n gorsafoedd darlledu.

Mae hyn hefyd yn ein rhwystro rhag datblygu sianeli a ffrydiau i ddatblygu mwy o sianeli a gorsafoedd Cymraeg, ac mae’r diffyg parch at yr iaith gan y BBC yn amlycach fyth.”

  • Roedd datganoli pwerau tros gyllido darlledu’n un o argymhellion Comisiwn Silk yn 2013. Ar hyn o bryd, mae mwy na 50 o bobol yn gwrthod talu am eu trwydded deledu fel rhan o’r ymgyrch.