Mae miloedd o weithwyr dur yng Nghymru wedi wynebu cael eu “twyllo’n ddigywilydd” gan gynghorwyr ariannol ac wedi eu gadael yn ddiamddiffyn gan gwmni Tata, Llywodraeth Cymru na’r corff sy’n cadw llygad ar bensiynau.

Dyna gasgliad Pwyllgor Gwaith a Phensyniau Tŷ’r Cyffredin mewn adroddiad sy’n hallt ei feirniadaeth ar y ffordd y mae gweithwyr cwmni Tata wedi cael eu trin wrth i gynllun pensiwn y cwmni ddod i ben.

Roedd cannoedd wedi “cael eu hecsploetio gan gynghorwyr ariannol amheus ynghyd â ‘chyflwynwyr’ parasitig”, meddai’r adroddiad.

Mae’r un peth yn digwydd hefyd y tu allan i’r diwydiant dur, meddai’r ASau,  gyda thua 100,000 o bobol trwy’r Deyrnas Unedig bob blwyddyn yn symud i bensiynau salach.

‘Fwlturiaid’

Fe ddaeth y newid pensiwn yn sgil cynllun i achub busnes dur Tata yng ngwledydd Prydain ac, yn arbennig, y prif waith ym Mhort Talbot lle mae tua 4,000 o bobol yn gweithio.

Roedd y gweithwyr yn cael dewis rhwng dau gynllun newydd a oedd rhywfaint yn salach na’r un gwreiddiol, ond yn ddiogel.

Yn ôl y Pwyllgor, roedd gweithwyr wedi colli ffydd a, than bwysau amser, wedi troi at gynghorwyr preifat; doedd rhai o’r rheiny ddim yn gymwys ac roedd eraill yn “fwlturiaid”.

Yn ôl yr adroddiad, doedd yr awdurdodau na chwmni Tata ddim wedi rhagweld beth fyddai’n digwydd – mae’r ASau’n feirniadol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Rheoleiddiwr Pensiynau am fethu ag amddiffyn y gweithwyr.

Colli hanner pensiwn

Mae rhai gweithwyr wedi colli cymaint â hanner gwerth eu pensiynau wrth gael cyngor gan ‘gynghorwyr’ oedd heb gymwysterau a symud i bensiynau llawer salach.

Roedd eraill wedi bod yn talu ffioedd uchel am ymuno â chynlluniau pensiwn ac yn talu cosbau llym am adael.

Mae’r Pwyllgor wedi galw ar y Rheoleiddiwr Pensiynau i gynnal adolygiad o’r hyn ddigwyddodd – mae’r Rheoleiddiwr yn ei dro yn dweud ei fod wedi gwneud ei waith trwy ddatblygu dewisiadau eraill swyddogol i’r gweithwyr.