Mae ymgyrch ar droed i ddod â Chymro adre o Bangkok lle mae wedi bod yn yr ysbyty ers dechrau mis Ionawr ddychwelyd adre’.

Fe fu Ifor Glyn, sy’n adnabyddus am ei waith ym maes cyffuriau yn Abertawe, yn ddifrifol wael ers Ionawr 4, ac fe fu ei fam a’i chwaer wrth erchwyn ei wely bron ers iddo gael ei gludo i’r ysbyty.

Mae ei frawd wedi teithio yno am yr ail waith ar ôl i’w gyflwr waethygu dros y penwythnos ac mae ffrindiau  a theulu wedi dechrau ymgyrch i godi £40,000 i’w hedfan adre’. Mae mwy na £2,500 wedi’u cyfrannu eisoes.

Cwmni yswiriant yn gwrthod

Mae’r teulu’n dweud eu bod wedi gorfod dechrau’r ymgyrch ar ôl i gwmni yswiriant Ifor Glyn wrthod talu am ambiwlans awyr i’w gario i Gymru.

Mae tudalen Go Fund Me y teulu’n dweud eu bod nhw “wedi cyrraedd pen eu tennyn wrth geisio ymdrin â sefyllfa sydd eisoes yn drawmatig”.

Fe ddywedodd un o’r ffrindiau sydd wedi sefydlu’r apêl ar ran y teulu fod y dasg yn “her” ond “gyda’n gilydd” bod modd dod ag Ifor Glyn adre’ a lleihau’r baich ar ei deulu

“Fel ffrind agos i’r teulu, rwy’n credu bod hon yn sefyllfa ofnadwy gan fy mod i’n gwybod mai’r unig ffordd y mae modd codi’r arian fyddai drwy elwa ar gynilon oes, ailforgeisio eiddo a.y.b. sydd mor drist ac yn anghywir o gofio bod Ifor wedi sicrhau, gyda phob ewyllys da, fod ganddo fe yswiriant teithio.”

Gweithio i leddfu problem cyffuriau

Ac yntau’n wreiddiol o Flaenau Ffestiniog,  fe ddechreuodd Ifor Glyn weithio gyda Phrosiect Cyffuriau Abertawe yn 1990, gan ddod yn gyfarwyddwr ar y prosiect yn ddiweddarach.

Aeth o’r fan honno i sefydlu gwasanaeth tebyg yng Nghaerffili cyn dychwelyd i Abertawe yn 2007 i fod yn Brif Weithredwr ar y Prosiect Cyffuriau.

Canolbwynt ei waith yw lleihau’r niwed y mae cyffuriau ac alcohol yn ei achosi i unigolion a chymunedau, sef un o brif amcanion y prosiect, sydd bellach yn cael ei alw’n Sands Cymru.