Dylai prentisiaid dderbyn yr un lefel o gefnogaeth â myfyrwyr coleg, yn ôl Aelodau Cynulliad.

Yn benodol, maen nhw’n dweud y dylai pecyn ariannol newydd i fyfyrwyr gael ei ymestyn i gynnwys prentisiaid hefyd.

Yn ôl y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn y Cynulliad, mae gan Lywodraeth Cymru “achos moesol cryf” i sicrhau cydraddoldeb.

Ac mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru wedi cefnogi hefyd, gan ddweud bod prentisiaid wedi’u trin yn “israddol” am amser hir, ac y dylai’r Llywodraeth weithredu argymhellion y pwyllgor “cyn gynted â phosib”.

Ymhlith yr argymhellion mae:

  • Creu cronfa galedi i brentisiaid
  • Talu grant ar gyfer eu costau byw
  • Rhoi manteision fel cardiau bws a thrên i brentisiaid yn ogystal â myfyrwyr.

Mae’r Pwyllgor yn galw hefyd am ragor o gefnogaeth i brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Cydraddoldeb”

“Mae angen i gydraddoldeb o ran parch rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd gael ei ategu gan gydraddoldeb o ran cefnogaeth i ddysgwyr,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Russell George.

“Mae achos moesol cryf i Lywodraeth Cymru ddefnyddio lefelau tebyg o gymorth gyda phrentisiaid a fyddai ar gael i’w cyfoedion mewn addysg amser llawn.”

Croesawu

“R’yn ni’n diolch i’r pwyllgor am eu hadroddiad,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru. “Byddwn yn ystyried ei argymhellion yn ofalus ac yn ymateb yn fanwl yn ystod yr wythnosau nesaf.”

“Rydym wedi ymrwymo i godi sgiliau ac i wella cyfleoedd yn y gweithle – dyna pam y gwnaethom ehangu mynediad at brentisiaethau i bobol o bob oedran.

“Byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn ni i sicrhau bod prentisiaethau ar gael i unigolion ledled Cymru.”