Mae Llywodraeth Cymru wedi gwadu honiad eu bod wedi cefnu ar dargedau i ddyblu amaeth dŵr yng Nghymru.

Yn eu ‘Cynllun Morol Drafft’ mae’r Llywodraeth yn nodi eu bod yn bwriadu “dyblu cynhyrchiant” yn y sector erbyn 2020, gan gynyddu lefelau cynhyrchu pysgod cregyn i 16,000 tunnell y flwyddyn.

Ond, wrth siarad â golwg360 mi wnaeth Kim Mould, Cyfarwyddwr cwmni Myti Mussels ym Mangor, honni bod y Llywodraeth wedi cefnu ar y targed hwn.

Yn ôl y ffarmwr cregyn gleision, mae “lefelau cynhyrchu wedi disgyn cryn dipyn” dros y blynyddoedd diwetha’.

“Cefnogi twf cynaliadwy”

“Dydyn ni ddim wedi troi ein cefnau ar y targed i ddyblu dyframaethu yng Nghymru – mae hyn yn hollol anghywir,” meddai llefarydd o Lywodraeth Cymru:

“Yn wir mae ein cynllun morol drafft, sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, yn cynnwys y targed nid yn unig i ddyblu cynhyrchiant erbyn 2020 ond i gynyddu cynhyrchiant eto dros oes y cynllun.

“Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant dyframaethu i gefnogi twf cynaliadwy y sector yng Nghymru.”