Mae teithwyr ar drenau Arriva Cymru yn gallu manteisio ar Wi-fi am ddim ar ôl i Lywodraeth Cymru wario £1.5 miliwn i gefnogi’r cynllun.

Fe fydd siocledi ‘Caru Wi-Fi am Ddim’ a thaflenni gwybodaeth yn cael eu rhannu mewn stynt cyhoeddusrwydd i geisio tynnu sylw at y gwasanaeth mewn gorsafoedd.

Fe fydd y cynllun yn “hwb mawr” i deithwyr hamdden a defnyddwyr busnes fel ei gilydd, yn ôl Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

“Rwy’n disgwyl iddo wneud cyfraniad gwirioneddol i’n huchelgais o gael economi sy’n ffynnu, gyda busnesau cryf mewn rhanbarthau cynhyrchiol fel sy’n cael ei amlinellu yn ein Cynllun Gweithredu Economaidd Ffyniant i Bawb,” meddai.

Fydd Arriva ddim yn cystadlu i barhau gyda thrwydded y gwasanaethau Cymreig ar ôl eleni.