Mae hi’n 30 mlynedd ers un o’r llofruddiaethau mwya’ dadleuol yn hanes Cymru ac mae’r dadlau amdano’n parhau.

Ar ddydd San Ffolant 1988 y cafodd gweithwraig ryw ifanc o’r enw Lynette White ei llofruddio mewn fflat yn ardal y dociau yng Nghaerdydd.

Fe arweiniodd hynny hefyd at un o’r achosion gwaetha’ o anghyfiawnder yn hanes y wlad.

Ar gam

Fe gafodd tri dyn eu carcharu ar gam ac, er i’r llofrudd go iawn, Jeffrey Gafoor, gael ei ddal yn 2003, mae amheuon o hyd am faint y gosb a gafodd – carchar am oes gyda chyfle i ofyn am gael ei ryddhau ar ôl 13 mlynedd. Fe allai hynny olygu ei fod yn ddyn rhydd yn fuan.

Fe ddywedodd Comisiynydd Heddlu a Chyfiawnder De Cymru, Alun Michael, bod cwestiynau teg i’w codi am hynny, yn enwedig o ystyried bod pobol ddiniwed wedi bod yn y carchar yn ei le.

Mewn cyfweliad gyda Radio Wales fe ddywedodd bod amheuon a oedd y gosb yn unol â maint y drosedd.

Ac fe ddywedodd un o’r tri nad oedden nhw wedi gallu dod i delerau â’r hyn a ddigwyddodd.

Sgandal

Fe arweiniodd yr ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White at sgandal anferth oddi mewn i Heddlu De Cymru.

Fe ddaeth yn glir bod y tri dyn croenddu a gafodd eu carcharu wedi eu harestio i ddechrau er bod tystion wedi sôn am ddyn gwyn yn dianc o’r ardal.

Fe ddywedodd tystion wedyn eu bod wedi ffugio tystiolaeth dan bwysau gan yr heddlu.

Yn ddiweddarach, fe fethodd achos llys yn erbyn nifer o swyddogion heddlu am nad oedd tystiolaeth bwysig ar gael.