Mae un o gynghorwyr sir Llafur yng Ngwynedd yn dweud y byddai’n “sarhad” pe bai ymgeisydd di-Gymraeg yn cael ei ddewis i sefyll yn etholaeth Arfon yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae Arfon yn un o’r etholaethau hynny lle mai dim ond merched sydd â’r hawl i gael eu henwebu i ymladd am y sedd.

Ond er bod Siôn Jones, sy’n cynrychioli pentrefi Bethel a Seion ger Caernarfon, yn credu ei bod yn “syniad da” cael rhestr o ferched yn unig, mae’n mynnu nad oes ymgeiswyr Llafur benywaidd digon addas ar gael ar gyfer Arfon – a hynny am nad oes yr un ohonyn nhw’n medru’r Gymraeg.

Mae’r rhestr, sy’n cynnwys saith ymgeisydd, eisoes wedi’i hanfon at aelodau’r blaid yn lleol.

“Dw i’n cytuno, mewn egwyddor, fod y syniad i gael seddi i ferched yn unig yn syniad da,” meddai Sion Jones wrth golwg360.

“Ond dw i’n dadlau’r ffaith bod yna sefyllfa wahanol yn Arfon gan fod dim darpar ymgeiswyr ar hyn o bryd sydd â digon o adnabyddiaeth i allu cario’r bleidlais leol.”

 

Angen ail-ystyried

Mae Siôn Jones yn galw ar y Blaid Lafur ar lefel Brydeinig i “ailystyried” gosod Arfon ar y rhestr fer, a bod nifer eisoes wedi cefnogi ei safiad.

“Dw i’n meddwl bod pawb yn cytuno bod angen inni sicrhau ein bod ni’n cael yr ymgeiswyr iawn i sefyll yn Arfon.

“Fedrwn ni ddim dibynnu ar y National Swing eto. Rhaid i ni gael ymgeiswyr sy’n cael eu nabod yn lleol, sy’n nabod yr ardal yn dda, sy’n gallu’r iaith Gymraeg, ac sydd efallai yn barod mewn swydd yma.”