Mae heddlu’n apelio am wybodaeth am ddynes, 58, a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar y ffordd rhwng Llandeilo a Thalyllychau ddiwedd Ionawr.

Y gred yw fod y wraig wedi’i tharo gan gar wrth gerdded ar hyd ymyl y B4302 yn New Inn, tua 6yh ar Ionawr 29.

Mae wedi dod i’r amlwg bod gan y ddynes sawl enw – gan gynnwys Pasqual Lorentz a Gwendy Elizabeth Tolley – a bod ganddi gysylltiadau â Birmingham a Llundain.

Ond, hyd yma, mae Heddlu Dyfed Powys wedi methu â chael gafael ar ei theulu er mwyn eu hysbysu ynglyn â’r ddamwain, a bellach maen nhw wedi lansio apêl am ragor o wybodaeth.

Cyfrifoldeb

“Mae’r sefyllfa hon yn un drist, ac er bod y newyddion yn amhleserus, mae gennym gyfrifoldeb i geisio sicrhau ein bod yn dod o hyd i berthynas er mwyn eu hysbysu,” meddai llefarydd ar ran y llu.

“Roedd llawer yn yr ardal leol yn ei nabod, ond mi roedd hi’n byw ar ei phen ei hun, a doedd ganddi ddim perthnasau oedd yn byw’n lleol.”