Mae rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol “wedi colli’r elfen Gristnogol”, yn ôl gweinidog yr efengyl wedi ymddeol sy’n methu deall pam fod angen cynnwys sgwrs am elfen o Islam yn rhifyn nos Sul ddiwethaf.

Daw ei sylwadau wedi eitem yn trafod y pwnc o ymprydio, a sut y mae cymunedau Islamaidd yn dilyn yr arfer hwnnw, gael ei gynnwys yn rhan o raglen ar gyfnod y Grawys (sy’n dechrau fory).

Yn ôl y gweinidog, sydd yn dymuno aros yn ddienw, doedd dim “rheswm” cynnwys yr eitem dan sylw yng nghyd-destun trafodaeth ar arferion cyfnod Cristnogol y Grawys.

“Do’n i ddim yn gweld rheswm dros roi’r linc i mewn i Islam fel y gwnaethon nhw,” meddai’r gweinidog wrth golwg360.

“Colli’r elfen Gristnogol”

Mae eisoes wedi cwyno wrth S4C, gan fynnu nad yw ei feirniadaeth yn un “wrth-Islamaidd”. Yn hytrach, mae’n cwestiynu p’un ai rhaglen Gristnogol ynteu rhaglen aml-ffydd yw Dechrau Canu Dechrau Canmol bellach.

“Am gynnwys y rhaglen dw i wedi cwyno, ac am drefn y cynnwys, a chwestiynu gogwydd olygyddol y rhaglen,” meddai’r cyn-weinidog wedyn.

“Mi oedd pwynt y rhaglen wedi cael ei golli. Os mai’r Grawys oedd y pwnc, ac arferion y Grawys, yna roedd hynny wedi mynd ar goll o’r rhaglen yn gyfan gwbwl i mi.

“Mae’r elfen Gristnogol o hanfod y rhaglen wreiddiol, fel yr oedd hi, wedi’i cholli’n llwyr.”

Ymateb S4C

“Cyfres grefyddol yw Dechrau Canu Dechrau Canmol sydd yn greiddiol i wasanaeth S4C,” meddai llefarydd ar ran y sianel.

“Mae’n gyfle i ddathlu’r traddodiad mawl a chanu arbennig sy’n ein cymeriadu ni fel cenedl, yn ogystal â chyfle i gael sgyrsiau ysbrydol aml-ffydd fydd yn creu sgwrs a chyffwrdd y galon.

“Bydd y gyfres yn adlewyrchu ardaloedd, pobl a chymunedau amrywiol Cymru heddiw i ofyn am bwysigrwydd eu ffydd iddyn nhw, a thaflu goleuni a dathlu amrywiaeth ein credoau fel gwlad aml-ddiwylliedig.”