Mae’r cyn-Aelod Cynulliad, Aled Roberts, wedi’i benodi gan Lywodraeth Cymru i ehangu’r ddarpariaeth o addysg Gymraeg oddi fewn i awdurdodau lleol.

Mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru gan gynghorau sir, gyda’r cynlluniau’n cynnwys targedau gan bob un ar gyfer pob un ar gyfer datblygu addysg Gymraeg yn eu hardaloedd.

Cafodd y cynlluniau cyntaf ar gyfer y cyfnod 2014-17 eu cyflwyno ym mis Rhagfyr 2013, a’r ail gynlluniau ar gyfer 2017-20 ym mis Rhagfyr 2016.

Yn dilyn hynny, cafodd asesiad llawn o’r cynlluniau eu cynnal, gyda’r llywodraeth yn dod i’r casgliad nad oedden nhw’n mynd yn ddigon pell i sicrhau twf digonol mewn addysg Gymraeg.

Cafodd Aled Roberts ei benodi wedyn gan Weinidog y Gymraeg ar y pryd, Alun Davies, i gynnig argymhellion ar gyfer y cynlluniau, ac mae bellach wedi’i benodi ar gyfer y flwyddyn nesaf i weithredu’r argymhellion hynny. Fe fydd bwrdd cynghori annibynnol yn cael ei sefydlu hefyd.

Creu “Cymru wirioneddol ddwyieithog”

“Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn diffinio uchelgais y Llywodraeth ar gyfer dyfodol ein hiaith,” meddai Aled Roberts.

“Mae’n cydnabod y rôl hanfodol y bydd y blynyddoedd cynnar ac addysg yn ei chwarae wrth gyflawni ein hamcanion.”

“Dw i’n edrych ymlaen at gael ymgymryd â’r rôl hon ac fe fydda i’n gweithio’n ddiflino gydag eraill i greu’r newid sydd ei angen fel bod ein pobl ifanc yn cael y cyfle i ddysgu a gweithio mewn Cymru wirioneddol ddwyieithog.”