Fe all Diwrnod y Lluoedd Arfog “godi £4 miliwn ar gyfer yr economi leol”, yn ôl Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Llandudno yn ystod yr haf hwn, ac yn ôl y cyngor fe fydd yn denu tua 250,000 o bobol i’r sir.

Y bwriad yw “diolch i’r Llynges Frenhinol, y Fyddin, yr Awyrlu Brenhinol a chyn-filwyr” meddai’r cyngor.

Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y sir hefyd rhwng Mehefin 21 a Gorffennaf 1, ac fe fydd yr wythnos yn cynnwys seremoni codi’r faner, a gorymdaith filwrol ar y prif ddiwrnod yn Llandudno ar Fehefin 30.

Mae’r digwyddiad eleni yn dynodi 10 mlwyddiant y dathliad, ac mewn digwyddiad tebyg ddwy flynedd yn ôl yn Cleethorpes yn Swydd Lincoln, cafodd £4.2 miliwn ei godi ar gyfer yr economi leol, meddai Cyngor Sir Conwy.

“Budd economaidd”

“Mae’r budd economaidd yn amlwg. Mae miloedd o bobl yn mynd i fod yma,” meddai’r cynghorydd Louise Emery, Aelod Cabinet yr Economi, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

“Bydd y gwestai’n llawn dop. Bydd meysydd carafanau a gwersylla’r ardal yn brysur iawn, ac mae’r dref ei hun – y caffis a’r busnesau, y siopau manwerthu arferol – i gyd am elwa.

“Gwelodd Cleethorpes werth miliynau o bunnoedd o fusnes ychwanegol, nid ar yr un diwrnod hwnnw’n unig, ond yn yr wythnos oedd yn arwain at Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ac ar ôl hynny, felly mae’r dref yn siŵr o elwa. Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod gwych.”