Fe fydd ffermwraig a gweinyddes o Gaerfyrddin yn ymddangos yn y rhaglen deledu realiti, Survival of the Fittest.

Fe fydd Lottie James, 22 oed, yn ymuno â thîm y merched yn y gyfres realiti heno (nos Lun, Chwefror 12), gan gymryd lle Dani Dyer – merch yr actor, Danny Dyer.

Bu’n rhaid i Dani Dyer adael y gyfres yn dilyn y rhaglen gyntaf nos Lun diwethaf, pan gafodd niwed i’w hysgwydd.

“Gwneud rhywbeth newydd”

Wrth ymuno â’r gyfres, sy’n gweld 12 o fenywod a dynion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn Ne Affrica er mwyn ennill gwobr ariannol, mae Lottie James yn dweud nad yw hi’n chwilio am “gariad”.

“Dw i am fod yn driw i Dîm y Merched,” meddai, “gan gadw’n glir o’r gelyn a glynu at gôd y merched.”

Mae’n dweud hefyd ei bod hi am “wneud rhywbeth newydd” ac i “herio ei hun”, gan obeithio y bydd ei gonestrwydd yn gryfder iddi.

Mae Survival of the Fittest yn cael ei chynhyrchu gan yr un tîm a oedd yn gyfrifol am y gyfres realiti Love Island.

Mae Survival of the Fittest yn cael ei darlledu ar ITV2 am 9yh bob nos.