“Rhaid sicrhau tegwch rhwng Prydain ac Iwerddon” – dyna fydd neges Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wrth iddo ymweld a Dulyn heddiw (Chwefror 18) i gwrdd â chynrychiolwyr Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon.

Bydd Carwyn Jones yn dweud ei fod yn gwrthwynebu sefydlu ffin “galed” rhwng gwledydd Prydain a Gweriniaeth Iwerddon yn sgil Brexit, ond bydd hefyd yn nodi nad yw am weld safleoedd tollau ym mhorthladdoedd Cymru.

Bydd yn rhybuddio y gallai trefn dollau newydd fod yn “niweidiol tu hwnt” i Gymru, ac yn dadlau tros aros yn y Farchnad Sengl.

“Dyna pam mai’r opsiwn gorau yw i’r Deyrnas Unedig yn gyfan, barhau i fod yn rhan o’r Farchnad Sengl a bod yn aelod o undeb tollau,” mae disgwyl i Carwyn Jones ddweud heddiw.

“Byddai hynny’n datrys [y drefn newydd] hon yn llwyr. Dyna hefyd sydd orau i economïau Cymru ac Iwerddon ac, yn wir, i economïau’r Deyrnas Unedig yn gyfan.”

Roedd disgwyl i Carwyn Jones gwrdd a’r Taoiseach ond mae’n debyg bod y cyfarfod wedi’i ganslo gan fod Leo Varadkar yn cwrdd a’r Prif Weinidog Theresa May. Mae adroddiadau bod cytundeb ar y gweill ynglyn ag adfer y llywodraeth rhannu grym yn Stormont.

“Niweidiol”

Mae’n debyg bod 80% o’r nwyddau sy’n cael eu cludo rhwng Gweriniaeth Iwerddon ac Ewrop – mewn lorïau sydd wedi’u cofrestru yn Iwerddon – yn pasio drwy borthladdoedd Cymru.

Yn ddiweddar fe lansiodd y Prif Weinidog bapur Llywodraeth Cymru ynghylch masnach ar ôl Brexit, gan nodi’r heriau sy’n wynebu porthladdoedd Cymru. Roedd yn tynnu sylw at y ffaith mai’r mater pwysicaf i borthladdoedd Cymru yw parhau i fedru symud nwyddau a phobl yn rhydd drwy drefniadau tollau di-dor.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Byddai newidiadau i’r rheolau tollau sy’n ychwanegu mwy o gostau, mwy o amser a mwy o waith rheoleiddio i borthladdoedd Cymru yn golygu eu bod yn llawer llai effeithiol. Gallai hynny yn ei dro annog cludo nwyddau drwy ffyrdd heblaw’r llwybrau morol rhwng Cymru ac Iwerddon. Byddai hynny’n niweidiol tu hwnt i’n heconomi.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llawn i wneud ei rhan i gefnogi Cytundeb Gwener y Groglith, ond does dim modd i mi gefnogi unrhyw ganlyniad a fyddai’n gwyro’r traffig oddi wrth Gaergybi, Abergwaun a Doc Penfro tuag at rannau eraill o’r Deyrnas Unedig.”

Yn ystod ei ymweliad bydd y Prif Weinidog hefyd yn bresennol mewn trafodaeth ynghylch Seilwaith a Brexit dan gadeiryddiaeth Siambr Fasnach Prydain ac Iwerddon, ac yn ymweld â ffigyrau gwleidyddol nodedig.