Mae mam yn ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug heddiw, wedi’i chyhuddo o lofruddio’i mab saith wythnos oed.
Mae Hannah Turtle, 21 o Shotton yn Sir y Fflint, wedi’i hamau o wenwyno’i babi, James Hughes, fu farw ar Fehefin 13, 2016.
Mae hi hefyd wedi’i chyhuddo o dri achos o gam-drin neu esgeuluso’i mab a dau achos o’i wenwyno.
Honnir bod yr holl droseddau hyn wedi cael eu cyflawni rhwng mis Mai a Mehefin 2016.
Mae Hannah Turtle wedi gwadu’r chwe chyhuddiad yn ei herbyn.
Mae disgwyl i’r achos bara tua phythefnos.