Mae Cameron Douglas wedi canmol ei lysfam, yr actores o Gymru Catherine Zeta Jones am ei chefnogaeth iddo tra ei fod e yn y carchar.

Treuliodd Cameron, mab 39 oed Michael Douglas, saith mlynedd dan glo am droseddau’n ymwneud â chyffuriau.

Dywedodd wrth y Mail on Sunday: “Mae Catherine yn ymladdwr. Daeth hi o Gymru a chrafu ei ffordd tua’r brig drwy ddawn a phenderfyniad.

“Dydy hi byth yn rhoi’r gorau i unrhyw beth a wnaeth hi ddim rhoi’r gorau i fi. Fe wnaeth cariad fy nheulu fy nhynnu i drwy’r dyddiau duaf.”

Ychwanegodd ei fod e am i’w deulu “fod yn falch” ohono fe.