Mae Aelod Cynulliad newydd Alun a Glannau Dyfrdwy wedi dweud bod “poen yn rhan o alaru”, wrth drafod marwolaeth ei dad, cyn-Weinidog Cymunedau Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant.

Fe fu’n siarad â rhaglen Sunday Supplement ar Radio Wales, ddyddiau’n unig ar ôl iddo gael ei ethol yn olynydd i’w dad, fu farw ym mis Tachwedd.

Cafwyd hyd i gorff Carl Sargeant yng Nghei Connah ar ôl iddo gael gwybod ei fod yn wynebu ymchwiliad i’w ymddygiad rhywiol at fenywod, ymchwiliad a arweiniodd at ei ddiswyddo o Lywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i ymchwiliad i’r ffordd y cafodd ei ddiswyddo gael ei gynnal maes o law.

Rhesymau dros sefyll

Wrth egluro’i benderfyniad i frwydro am sedd ei dad, dywedodd yr Aelod Cynulliad Llafur ei fod e eisiau “parhau â’r gwaith caled a’r gwaddol adawodd fy nhad ar ei ôl, a’r gwasanaeth a ddarparodd i gymuned Alun a Glannau Dyfrdwy”.

Ychwanegodd ei fod e am “sefyll i fyny dros bobol oedd wedi sefyll i fyny drosof fi a fy nheulu yn ystod adeg fwyaf anodd ein bywydau”.

Serch hynny, mae’n mynnu ei fod e’n “unigolyn” a bod ganddo fe ei sgiliau ei hun, a bod “rhaid symud ymlaen”.

 

 

“Dyma’r cam cyntaf,” meddai.

“Mae llawer o bobol ar garreg y drws ac ar draws y gymuned yn teimlo llawer o boen. Mae poen yn rhan o alaru ac mae poen yn rhan o’r broses o alaru.”

Tensiwn

Dywedodd Jack Sargeant fod yna “densiwn” o fewn y Blaid Lafur yn ystod yr ymgyrchu, a’u bod yn wynebu “amgylchiadau anodd” yn sgil yr ymchwiliad yn dilyn marwolaeth ei dad.

Doedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ddim yn yr etholaeth yn ystod yr ymgyrchu, ac fe gadwodd e draw o angladd Carl Sargeant.

Dywedodd Jack Sargeant mai “ymgyrch leol” oedd ei ymgyrch i fod yn Aelod Cynulliad.