Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland wedi beirniadu penderfyniad y dyfarnwr fideo i wrthod cais i Gareth Anscombe wrth i’w dîm golli o 12-6 yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar gae Twickenham brynhawn dydd Sadwrn.

Sgoriodd Jonny May ddau gais i roi’r Saeson ar y blaen yn yr ugain munud agoriadol, ond tarodd Cymru’n ôl i roi llygedyn o obaith iddyn nhw eu hunain yn yr ail hanner.

Croesodd Gareth Anscombe pan oedd ei dîm ar ei hôl hi o 12-0, ond penderfynodd y dyfarnwr fideo Glenn Newman nad oedd y bêl wedi cael ei thirio’n gywir.

Yn ôl Warren Gatland, roedd y penderfyniad wedi costio’n ddrud i’w dîm.

“Roedd yn edrych fel cais i fi,” meddai. “Mae’n siomedig pan gewch chi benderfyniad anghywir.

“Roedd yn foment dyngedfennol yn y gêm. Roedd gan y TMO un penderfyniad mawr i’w wneud ac mae e wedi gwneud camgymeriad ofnadwy.”

‘Pwysau’

Yn ôl y dyfarnwr fideo, doedd cefnwr Cymru ddim wedi rhoi pwysau ar y bêl wrth ei thirio.

Ond mae Warren Gatland yn amau’r penderfyniad hwnnw.

“Ro’n i’n cael trafferth gyda’r geiriau. Fe ddywedodd fod Lloegr wedi cyrraedd yn gyntaf, ac nad oedd pwysau i lawr ar y bêl gan Gymru. Fe welais i hynny’n wahanol.

“Roedd y pwysau i lawr yn amlwg ac ar y lefel yma, o flaen 82,000 o bobol, pan fo tipyn yn y fantol, rhaid i chi gael y penderfyniadau hynny’n iawn.”

Dywedodd y byddai’n gofyn am eglurhad pellach gan y dyfarnwr.

Eddie Jones yn wfftio

Dywedodd prif hyfforddwr Lloegr, Eddie Jones mai mater i’r dyfarnwr fideo ei benderfynu oedd y cais.

“Dw i erioed wedi gwneud sylw am TMO. Mae’n un rhan o’r gêm sydd wedi mynd yn dda yn y byd rygbi.

“Mae gyda ni foi yn fan hyn sy’n ddyfarnwr. Mae ganddo fe amser i wneud penderfyniad ac os nad yw e’n gallu gwneud penderfyniad, yna beth wnawn ni? Dw i’n ei adael e i wneud y penderfyniadau. Fe wnaeth e’r penderfyniad ac ry’n ni’n symud ymlaen.”