Mae llyfrgell yn y Bala wedi ailagor ar ei newydd wedd yn dilyn buddsoddiad £120,000 gan Lywodraeth Cymru.

Bellach mae Llyfrgell Bro Tegid yn ôl yn ei safle gwreiddiol yn Ysgol y Berwyn yn dilyn cyfnod dros dro yng Nghanolfan Hamdden Penllyn.

Er mwyn nodi’r agoriad bydd digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal yn y llyfrgell dros gyfnod hanner tymor, gan gynnwys sesiynau cymdeithasu anffurfiol a chystadlaethau braslunio.

Mae buddsoddiad y Llywodraeth wedi galluogi gwelliannau i’r llyfrgell, gan gynnwys sefydliad ystafell gweithgareddau ac uwchraddio adran blant.

“Gwell darpariaeth”

“Hoffwn ddiolch o i ddefnyddwyr y llyfrgell am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith adnewyddu,” meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd.

“Bydd y llyfrgell ar ei newydd wedd yn cynnig gwell darpariaeth, ac yn creu adnodd croesawgar a chyfeillgar i bawb sy’n ymweld.”