Mae Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro i deulu dynes fu farw wedi i ddoctoriaid wneud diagnosis anghywir o’i chyflwr.

Bu farw Lisa Beechey, 39, ar ôl i ddoctoriaid Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-Bont ar Ogwr, benderfynu mai dim ond cur pen difrifol oedd ganddi – er bod ganddi meningitis.

“Cynigwn ymddiheuriad o waelod ein calon i deulu Ms Beechey am eu colled, ac ymddiheurwn am y methiannau yn ei hachos,” meddai Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.

Bellach mae cyfreithwyr ar ran gwr y ddynes, Simon Aberstone, 49, wedi dod i gytundeb tu allan i’r llys tros iawndal.

Ei hachos

Aeth Lisa Beechey, 39, i uned asesiadau meddygol Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-Bont ar Ogwr, ar Fedi 10, 2015; pan ddechreuodd ddangos symptomau meningitis.

Cafodd ei hanfon adre o’r ysbyty gyda thabledi parasetamol, er i feddyg teulu godi pryderon â doctoriaid yr ysbyty bod ganddi symptomau meningitis.

Dychwelodd i’r ysbyty 10 diwrnod wedi hynny, a chafodd ei throsglwyddo i adran niwrolegol Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, lle bu farw ar Hydref 1.

Roedd hi’n fam i bump.