Mae un o DJs mwya’ profiadol Cymru yn gweld clustnodi Chwefror 9 yn Ddydd Miwsig Cymru yn “gyfle gwych” i feddwl a gwrando ar wahanol fiwsig sydd ar gael yn Gymraeg.

Nod y diwrnod, sy’n cael ei drefnu gan Lywodraeth Cymru, yw codi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg, gan annog sefydliadau, busnesau a phobol i chwarae ac i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg.

Ac yn ôl y DJ a’r actor, Gareth Potter, mae’n dda bod yna ffasiwn ddiwrnod er mwyn dathlu cerddoriaeth Gymraeg.

“Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddiwrnod lle gallwn ni jyst meddwl a gwrando ar wahanol fiwsig sydd ar gael yn y Gymraeg,” meddai wrth golwg360, “a dathlu’r sîn sydd wedi bod mewn bodolaeth nawr ers hanner canrif.

“Mae unrhyw beth sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn rhoi siawns i ni wrando ar gymaint o wahanol fiwsig sydd gyda ni yn y Gymraeg yn rhywbeth gwerthfawr iawn.”

Dyma glip o Gareth Potter yn esbonio beth fydd ei symudiadau yn ystod y dydd:

Digwyddiadau eraill

  • Gigs rhad ac am ddim yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Abertawe, Caernarfon, Coed Duon a Phwllheli;
  • Ffilmiau gan lysgennad y diwrnod, Huw Stephens, a’r actor, Rhys Ifans, yn datgelu eu hoff draciau Cymraeg;
  • Spotify yn rhyddhau cyfanswm y munudau o fiwsig Cymraeg mae pobol wedi gwrando arno yn 2017, ynghyd ag enwau’r 20 artist sydd wedi’u chwarae fwyaf;
  • Y band ‘The Gentle Good’ yn rhyddhau eu EP newydd, Y Gwyfyn, sydd yn Gymraeg i gyd;
  • Bwyty Cymreig y Sunken Hundred yn Efrog Newydd yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg trwy gydol y dydd.