Bydd twf economaidd Cymru yn arafu yn sgil Brexit – p’un ai ydyn ni’n aros yn farchnad sengl ai peidio – yn ôl adroddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae’r adroddiad, sydd wedi dod i law Aelodau Seneddol, yn dangos y byddai twf economaidd Cymru 1.5% yn llai os fyddwn yn aros yn y farchnad sengl wedi Brexit.

Os fydd Prydain ond yn llunio dêl masnach ag Ewrop byddai twf economaidd Cymru 5.5% yn llai, a heb ddêl o gwbwl, byddai twf 9.5% yn llai.

Yng ngogledd ddwyrain Lloegr a gorllewin canolbarth Lloegr mae’r rhagolygon fwyaf llwm, tra bod yr adroddiad yn awgrymu mai Llundain fydd yn cael ei heffeithio lleiaf.

Mae’r rhagolygon yn besimistaidd ledled y Deyrnas Unedig.

“Gwaith pellach i’w wneud”

“Dydy’r ddogfen yma ddim yn adlewyrchu polisi’r Llywodraeth, a dydy hi ddim yn ystyried yr opsiwn yr ydym ni’n dadlau drosto yn y trafodaethau,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.

“Fel y dywedodd gweinidogion yn y Tŷ, dadansoddiad mewnol dros dro yw hyn, rhan o raglen ddadansoddol sydd ar droed, ac mae gwaith pellach i’w wneud.”

Er bod rhai wedi croesawu’r adroddiad, gan ddadlau ei fod yn profi fod angen osgoi Brexit caled, mae ambell ffigwr wedi ei feirniadu gan gyhuddo’i awduron o greu dogfen anonest.

“Byddai’n well gen i ddibynnu ar [yr astrolegydd] Mystic Meg, yn hytrach na darn arall o bropaganda gan bobol sy’n frwd tros aros yn Ewrop,” meddai Arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton.