Mae’r Aelod Seneddol a arweiniodd yr ymgyrch i gael hawl i siarad Cymraeg yn rhai o gyfarofydd Tŷ’r Cyffredin yn dweud bod y prynhawn yma yn “garreg filltir anferthol”.

Fe gafodd y Gymraeg ei defnyddio am y tro cynta’ yn un o gyfarfodydd yr Uwch Bwyllgor Cymreig, sy’n cynnwys holl ASau Cymru.

Roedd yna areithiau Cymraeg a Saesneg wrth i ASau drafod effaith Cyllideb y llynedd ar Gymru.

“Roedd angen cryn ddycnwch ar ein rhan i hyn ddigwydd,” meddai Susan Elan Jones, AS Llafur De Clwyd ac un o’r ymgyrchwyr a lwyddodd gyda chynnig yn Nhŷ’r Cyffredin fis yn ôl.

“Dw i’n falch o fod wedi cymryd rhan ac o fod wedi derbyn cymaint o gefnogaeth.”

Cairns oedd y cynta’

Y cynta’ i siarad oedd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, a ddweyedodd ei fod yn falch o siarad yn Gymraeg a fod hwn yn ddiwrnod “hanesyddol i’r senedd ac i Gymru”.

Roedd wedi cael ei feirniadu ychydig ddyddiau’n ôl pan oedd hi’n ymddangos ei fod wedi ymuno mewn chwerthin yn Nhŷ’r Cyffredin pan ddywedodd yr AS Ceidwadol, Stuart Andrew, ychydig eiriau Cymraeg.