Mae swyddi “cannoedd” o staff cynorthwyol mewn ysgolion yng Ngwynedd yn y fantol, yn ôl undeb.

Mae’n debyg bod 21 ysgol yn y sir yn torri ar y cymorth mae disgyblion yn ei dderbyn oherwydd diffyg arian gan y cyngor.

Yn ôl undeb UNISON, mae staff wedi clywed eu bod yn wynebu toriadau yn eu horiau gwaith a rhai hyd yn oed am golli eu swyddi.

Mae’r undeb yn cydnabod bod toriadau ariannol ar gynghorau yn creu problemau ond yn galw ar y cyngor i ddiogelu’r gwasanaeth.

Mae ateb Cyngor Gwynedd fan hyn.

Colli staff

Mae’r undeb hefyd yn dadlau tros fwy o chwarae teg i staff cynorthwyol yn gyffredinol gan ddweud bod yna ddiffyg cysondeb a chyfartaledd o le i le a swydd i swydd.

“Does dim amheuaeth o gwbl bod staff cynorthwyol yn cyfrannu at lwyddiant ysgol,” meddai Geoff Edkins, Trefnydd Rhanbarthol o UNISON.

“Ond, gan eu bod nhw’n fenywod ar gyflogau isel, sydd wedi’u lledaenu dros ysgolion Gwynedd, ac ar gytundebau gwan, mae yna deimlad bod y cyngor yn gallu mynd heb gael eu cosbi.

“Rydyn ni am ofyn, sut mae modd dysgu mewn ystafelloedd dosbarth pan mae ysgolion yn colli staff cynorthwyol ar y raddfa yma?”