Prif ymgyrch thema’r AC newydd, Jack Sargeant, oedd “bod yn fwy clên at ein gilydd, yn fwy clên mewn bywyd a gwleidyddiaeth sy’n fwy clên”.

Dyna neges un o brif ymgyrchwyr Aelod Cynulliad Alyn a Glannau Dyfrdwy ar ôl iddo sefyll yn hen sedd ei dad, a laddodd ei hun yn sgil gwrthdaro gwleidyddol.

Fe fydd yn “aelod o’r gymuned, ar ran y gymuned”, meddai’r llefarydd wrth golwg360 ar ôl i Jack Sargeant gynyddu’r mwyafrif Llafur yn yr isetholiad.

“Mae’r ymgyrch wedi bod yn grêt,” meddai. “Ryden ni wedi siarad â miloedd o bobol wyneb yn wyneb, ryden ni wedi dylifro pamffledi ar draws yr etholaeth ac mae Jack yn edrych ymlaen rŵan i fynd lawr i Fae Caerdydd, gweithio ar gyfer y bobol a chynrychioli’u buddiannau nhw o fewn y Cynulliad.”

‘Dim syndod’

Doedd ei fuddugoliaeth na maint ei fwyafrif, meddai’r llefarydd, ddim yn syndod i dîm Jack Sargeant.

“Os ydech chi’n lleol ac yn siarad efo cymaint o bobol fedrwch chi, mae siawns dda gewch chi fwyafrif mawr a dyna be’ sy wedi digwydd.”

Ac yntau’n ddim ond 23 oed, Jack Sargeant yw’r Aelod Cynulliad ieuengaf o bell ond doedd hynny ddim yn wendid yng ngolwg ei ymgyrchwyr.

“Oedd pobol ar y stryd wedi ymateb yn dda i’w oed o,” meddai’r llefarydd. “Mae gynno fo bersbectif ffres, mae gynno fo egni newydd ac mae’r  Cynulliad angen hynny.

“Mae’i oedran o’n golygu ei fod o’n dod â phrofiad newydd. Mae o’n gyn-brentis, mae o wedi gweithio ar Ystad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, ac mae o’n brofiadol iawn o fewn y gweithle.

 ‘Dal i frifo’

Er gwaetha’r fuddugoliaeth, dywedodd y llefarydd fod teulu Jack Sargeant yn “dal i frifo” yn dilyn marwolaeth ei dad.

“Ond fel mae Jack wedi’i ddeud, fysen nhw ddim ’di gallu cael trwy hyn heb y gymuned. Mae Jack yn mynd i’w talu nhw nôl trwy weithio’n galed ar eu cyfer nhw.”