Mae Llywodraeth Cymru’n gwario £300,000 ar ddathlu’r penderfyniad i roi pleidlais i rai merched union ganrif yn ôl.
Fe fydd mudiadau a chymunedau’n gallu cynnig am arian i gynnal prosiectau ac fe fydd cyfle i bobol bleidleisio i ddewis dwy fenyw ar gyfer codi cerfluniau cyhoeddus ohonyn nhw.
Fe ddaeth y manylion mewn cyhoeddiad gan lefarydd busnes y Llywodraeth yn y Cynulliad, Julie James.
Dewis dwy
Rhan o’r dathlu fydd cynnal pleidlais i ddewis y 100 Menyw mwya’ arwyddocaol yn hanes Cymru – fe fydd cerfluniau’n cael eu codi ar gyfer y ddwy gynta’ a “chynifer ag sy’n bosib” o blaciau porffor yn cael eu gosod i gofio’r gweddill.
“Mae’n iawn ein bod ni’n dathlu’r cynnydd a wnaed dros y can mlynedd diwetha’,” meddai Julie James. “Mae hefyd yn iawn cofio’r ymdrechion a’r aberth a wnaed i sicrhau’r cynnydd hwn.
“Rhaid i ni gynnal ein momentwm, er mwyn cryfhau democratiaeth ymhellach, cynyddu nifer y menywod sydd mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau pwysig, a pharhau i herio anghydraddoldeb a chamwahaniaethu annheg.”
‘Parhau i ymladd’ meddai dwy wleidydd
Fe ddaeth sylwadau i gofio’r canmlwyddiant gan ddwy wleidydd benywaidd amlwg arall …
“Rydan ni’n parhau i geisio cyrraedd tuag at gydraddoldeb llawn ym mhob agwedd o fywyd. Mae’n hi’n daith sydd wedi gweld colli bywydau. Mae hi yn parhau i fod yn daith hir a blinders ond mae fy nghenhedlaeth i o ferched yn benderfynol o roi pob cefnogaeth i’r lleisiau benywaidd ifanc sy’n gynyddol ddig am y ffordd y mae nhw’n cael eu trin yn y Gymru gyfoes…” meddai AC Plaid Cymru tros Arfon, Sian Gwenllian.
“Mae Cymru wedi cael ei bendithio gydag ASau ac ACau benywaidd anhygoel o dalentog ar draws y pleidiau, ond does dim lle i fod yn ddihidio. Dyw Cymru ddim wedi cael Prif Weinidog benywaidd eto, mae cynrychiolaeth gan fenywod yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi llithro mewn etholiadau diweddar a dim ond 11 o ASau Cymru sy’n ferched,” meddai arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds.