Mae cymdeithas adeiladu fwya’ Cymru wedi cyhoeddi cynnydd yn ei helw ar gyfer y flwyddyn ddiwetha’.

Mae elw’r Principality wedi cod i £57.6 miliwn – cynnydd o fwy na £7 miliwn ar y flwyddyn gynt.

Wrth gyhoeddi’r newyddion, maen nhw wedi addo parhau i gynnal canghennau yng nghanol trefi – yn wahanol i rai banciau mawr.

Canghennau’n ‘bwysig’

“Rydyn ni’n dal i agor canghennau newydd,” meddai’r Prif Weithredwr, Steve Hughes – er nad oedd yn gallu rhoi addewid llwyr na fyddai’r un gangen yn cau yn y dyfodol.

“Mae ein rhwydwaith o ganghennau yn rhan fawr o’n cynnig i’n haelodau,” meddai mewn cyfweliad gyda Radio Wales.

Roedd y cynnydd yn rhannol oherwydd twf y musnesau morgeisi’r gymdeithas, sydd â 500,000 o gwsmeriaid ac sy’n chweched yn rhestr cymdeithasau adeiladu mwya’r Deyrnas Unedig.

Mae Steve Hughes yn rhagweld y bydd marchnad dai 2018 yn debyg i llynedd.