Jack Sargeant yw Aelod Cynulliad newydd Alun a Glannau Dyfrdwy, gan ddilyn ei dad, y diweddar Carl Sargeant, cyn-Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth Cymru.

Llwyddodd Jack Sargeant, 23, i gynyddu mwyafrif y Blaid Lafur i fwy na 6,000 ar ôl addo y byddai’n dilyn “yn nhraddodiad balch fy nhad”, a fu farw ym mis Tachwedd y llynedd yn 49 oed.

Yn ei araith ddiolch fe ddywedodd ei fod yn diolch i bobol ar draws yr etholaeth, Cymru a’r byd am “sefyll gyda fy nheulu yn ystod cyfnod mwya’ anodd ein bywydau”.

Y canlyniad

Cynyddodd canran Llafur o’r pleidleisiau o 45.73% i 60.65% y tro hwn ac, er fod y Ceidwadwyr wedi cynyddu eu cyfran hefyd, roedd yna symudiad o 5% oddi wrthn nhw at Jack Sargeant.

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi cynyddu mymryn are u canran, ond Plaid Cymru a’r Gwyrddion wedi colli tir. Roedd UKIP wedi penderfynu peidio â sefyll “o barch” i Carl Sargeant.

Dyma’r canlyniad llawn:

Jack Sargeant, Llafur – 11,267 (60.65%, +14.92%)
Sarah Atherton, Ceidwadwyr – 4,722 (25.42%, +4.41%)
Donna Lalek (Dem Rhydd) – 1,176 (6.33%, +1.81%)
Carrie Harper (Plaid Cymru) – 1,059 (5.70%, -3.26%)
Duncan Rees (Gwyrddion) 353 (1.90%, -0.53%)

Mwyafrif Llafur: 6,545 (35.23%)

Ymateb Jack Sargeant

“Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i bawb sy’n sefyll yn yr ystafell hon heno, pawb ledled Cymru, ar draws y DU ac ar draws y byd hefyd sydd wedi sefyll gyda fy nheulu yn ystod cyfnod mwyaf anodd ein bywydau,” meddai Jack Sargeant yn ei araith fuddugoliaeth.

“Alla i wir ddim tynnu’r geiriau ynghyd i ddweud diolch digon, ond mae’n golygu cymaint i fi a dw i’n gwybod fod y gymuned arbennig hon yn Alun a Glannau Dyfrdwy a phobol arbennig wedi’n helpu ni i gyd gymaint, a dw i ddim yn credu y bydden ni’n cael hynny yn unman arall.

“Wrth gwrs, rydyn ni o hyd yn torri’n calonnau am farwolaeth dad, y teulu cyfan, ond nid yn unig y teulu ond pawb. Rydyn ni wedi bod yn curo ar ddrysau yn yr etholaeth, ond mae [torri calonnau] ymhellach i ffwrdd na hynny yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.”

Carl Sargeant – y cefndir

Cafwyd hyd i gorff Carl Sargeant yn ei gartref yng Nghei Conna ychydig ddyddiau ar ôl y cyhoeddiad bod ymchwiliad ar y gweill i’w ymddygiad rhywiol tuag at fenywod ac ar ôl iddo gael y sac o’r Llywodraeth. Mae union natur yr honiadau’n anhysbys o hyd.

Mae ymchwiliad annibynnol i’r mater ar y gweill, gan ganolbwyntio ar ymdriniaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones o’r sefyllfa. Mae’r cwest i farwolaeth Carl Sargeant wedi’i ohirio yn y cyfamser.