Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi ymddiheuro i’r Aelod Cynulliad, Adam Price, am wneud cyhuddiad yn ei erbyn ar sail gwybodaeth anghywir.
Yn ystod cyfarfod llawn yn y Senedd yr wythnos diwethaf, dywedodd Carwyn Jones bod yr Aelod Cynulliad wedi anwybyddu cais gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda i gymryd rhan mewn ymgynghoriad tros ad-drefnu eu gwasanaethau.
Ond, yn ddiweddarach yn yr wythnos, mi wnaeth y Bwrdd ddatgelu bod Adam Price wedi cyfleu awydd i gyfarfod â nhw, a’u bod wedi rhyddhau gwybodaeth anghywir am y sefyllfa.
Wrth siarad yn y siambr ddydd Mawrth (Chwefror 6), mae Carwyn Jones wedi ymddiheuro, gan fyny bod y wybodaeth wedi dod i’w law “â phob ewyllys da”.
Ymddiheuriad
“Yn dilyn y ddadl yn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog wythnos ddiwethaf, hoffwn ymddiheuro i aelod Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr am yr ateb wnes i roi,” meddai.
“Mae’r ddau ohonom wedi derbyn ymddiheuriadau gan y Bwrdd Iechyd yn gysylltiedig â’r wybodaeth anghywir oedd yn sail i’r ddadl.”
Mae’r Prif Weinidog yn mynnu nad cais personol, oedd y cais am y wybodaeth, ac wedi dweud nad yw’n credu bod ffrae wythnos diwethaf “yn deilwng i’r dadleuon y dylwn hyrwyddo” yn y Senedd.