Mae llys wedi clywed bod cwsmer bwyty Indiaidd wedi cael ei niweidio â phowdwr tsili ar ôl cwyno bod y cyw iâr yn ei fwyd yn “sgleiniog” ac fel “rwber”.

Mae’r cogydd, Kamrul Islam, 47, wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol i David Evans tra’r oedd yn bwyta pryd ym mwyty Prince of Bengal, Tonypandy ym mis Ionawr y llynedd.

Mae rheithgor Llys y Goron Merthyr Tudful eisoes wedi clywed nad yw Kamrul Islam yn gwadu taflu’r powdwr, ond mae ef yn dadlau ei fod wedi cyflawni’r weithred er mwyn amddiffyn ei hun.

Y pryd

Fe fu David Evans ar ymweliad â’r bwyty â’i wraig ar Ionawr 21. Ar ôl archebu ei fwyd a blasu ei gyrri, clywodd y llys bod David Evans wedi cwyno am y pryd.

Yn ôl David Evans, er iddo dderbyn ymateb rhesymol gan sawl aelod staff i’w gwŷn, roedd ymateb Kamrul Islam – sydd hefyd yn berchennog ar y bwyty – yn “danllyd”.

Clywodd y llys bod Kamrul Islam wedi cerdded i’r gegin ar ôl rhegi ar y cwpwl, ac mi ddilynodd David Evans. Yna yn y gegin cafodd y powdwr ei luchio i’w lygaid.

Llosgiadau

Bu raid i David Evans dderbyn triniaeth yn yr ysbyty wedi hynny, ar ôl i’r powdwr achosi llosgiadau i’w lygaid.

Mae’r achos yn parhau.