Mae Cyngor Sir Benfro wedi cymeradwyo cynllun gwerth £7m a fydd yn gweld canopi enfawr yn cael ei adeiladu uwchben canolfan wyliau yn ne’r sir.

Bwriad y prosiect ‘SkyDome’ gan ganolfan wyliau Parc Cenedlaethol Bluestone, ger Arberth, yw adeiladu canopi tryloyw anferth a fydd yn cynnwys tŷ a chaffi, siopau, gweithgareddau a theatr ag iddi 600 o seddi.

Mewn cyfarfod o’r pwyllgor cynllunio heddiw (ddydd Mawrth), fe roddodd Cyngor Sir Benfro ganiatâd i’r prosiect fynd yn ei flaen.

Yn ôl canolfan wyliau Bluestone, y bwriad yw agor y safle newydd erbyn gwanwyn 2019, gyda 55 o swyddi newydd yn cael eu creu.

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd y prosiect yn cyfrannu dros £21m at yr economi lleol yn ystod y deng mlynedd nesaf.