Er ei bod hi’n rhan o fudiad “ymosodol a threisgar iawn”, roedd gan un o Swffragetiaid amlycaf Cymru, Margaret Haig Mackworth, “syniadau adeiladol a phositif iawn”, meddai’r hanesydd, Elin Jones.

Mae yna ymgyrch ar droed i godi cofeb i ‘fenyw gref’ yng Nghaerdydd – ac mae’r Swffragét hon ar y rhestr fer o gant o enwau.

Mae Elin Jones o’r farn ein bod yn tueddu i gofio Arglwyddes Rhondda – Margaret Haig Thomas oedd ei henw genedigol – am ei gweithredoedd treisgar tros hawliau menywod, gan gynnwys ymgais i fomio blwch post.

Ond, er ei hymgyrchoedd “milwriaethus”, meddai Elin Jones, ar ôl i fenywod ennill y bleidlais, fe drodd y Swffragét at ddulliau cyfansoddiadol er mwyn “diwygio cymdeithas”.

“Positif”

“Yn amlwg, roedd hi’n gwybod mor bwysig oedd e i gael ymgyrch bositif, cadarnhaol ac adeiladol,” meddai Elin Jones wrth golwg360.

“Doedd hi ddim wedi [rhoi’r gorau iddi] ar ôl ennill y bleidlais. Roedd hi’n dal i feddwl am sut i ddiwygio cymdeithas, a sicrhau mwy o chwarae teg i fenywod ac i blant.”

Enghraifft o hyn oedd y ‘grŵp chwe phwynt’ a gafodd ei sefydlu gan Margaret Mackworth yn 1921 er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng dynion a menywod, a diogelu hawliau plant.

O ran yr hyn oedd yn ei hysgogi, mae Elin Jones yn dadlau mai “magwraeth” y Swffragét a’i theulu blaengar oedd wedi dylanwadu arni fwya, yn fwy na’i “chefndir Cymreig”.

 

Cefndir

Cafodd Margaret Haig Thomas ei geni ar Fehefin 12, 1883, yn Llundain. Ei thad oedd Is-Iarll Rhondda, David Alfred Thomas, a’i mam oedd Sybil Haig (a oedd hefyd yn Swffragét).

Yn Llanwern, Casnewydd, y bu’n byw pan yn iau er iddi dreulio peth amser mewn ysgolion preswyl yn Lloegr ac ym Mhrifysgol Rhydychen.

Ymunodd â changen Swffragét Casnewydd yn 1908 ac fe ddaeth yn Ysgrifennydd yno gan arwain ymgyrch filwriaethus ledled de Cymru.

Treuliodd beth amser dan glo am ei gweithredoedd, ond pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf cytunodd i gefnu ar ei gweithredoedd milwrol tros yr hawl i bleidleisio.

Bu farw ar Orffennaf 20, 1958, Lai na mis wedi ei marwolaeth, fe enillodd menywod yr hawl i eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi am y tro cyntaf.