Mae’n ymddangos mai gogledd-orllewin Cymru sydd wedi’i effeithio waethaf gan eira dros nos.

Mae ysgolion wedi cau yn siroedd Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy oherwydd y tywydd.

Er ei bod hi’n pluo’n drwm ben bore, mae’r prif ffyrdd i weld yn glir.

Ysgolion ar gau 

Conwy – Ysgol Gynradd Betws-yn-Rhos.

Gwynedd – Ysgol Pont y Gof, Botwnnog; Ysgol Gynradd Sarn Bach; Ysgol Gynradd Edern; Ysgol Yr Eifl, Trefor; Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth; Ysgol Crud y Werin, Aberdaron; Ysgol Gynradd Rhosgadfan; Ysgol Pendalar, Caernarfon; Ysgol Gynradd Waunfawr; Ysgol Botwnnog.

Ynys Mon – Ysgol Gynradd y Graig, Llangefni; Ysgol Gyfun Llangefni; Ysgol Gynradd Bodorgan; Ysgol Gynradd Niwbwrch; Ysgol Gynradd Llangaffo; Ysgol Gynradd Dwyran; Ysgol Corn Hir, Llangefni; Ysgol Esceifiog, Gaerwen.