Mae Theresa May wedi cael ei cheryddu gan ystadegydd swyddogol y Deyrnas Unedig yn sgil ei sylwadau am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru.

Yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog (PMQs) fis diwethaf, dywedodd bod saith gwaith yn fwy o gleifion yn aros dros 12 awr mewn adrannau brys yng Nghymru – o gymharu â Lloegr.

Ond, mae Cadeirydd Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig, Syr David Norgrove, bellach wedi ymateb trwy ddweud nad yw’r gymhariaeth yn “ddilys”.

Llythyr

Mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, oedd yn cwyno am sylwadau Theresa May, dywedodd David Norgrove ei fod yn “iawn i ddweud nad yw’r gymhariaeth yn ddilys.”

“Mae’r ffigurau gafodd eu defnyddio ar gyfer Lloegr yn cyfeirio at amseroedd aros adrannau brys, sy’n dechrau amseru pan ddaw’r penderfyniad i drosglwyddo’r claf i adran arall o’r gwasanaeth iechyd.

“Mae’r ffigur i Gymru yn cyfeirio at yr holl amser mae cleifion yn aros – o’r eiliad maen nhw’n cyrraedd adrannau brys hyd at pan maen nhw’n gadael.”