Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd ddydd Gwener diwethaf (Chwefror 2).

Fe gafodd Malcolm Churcher, 69 oed, ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans yn fuan ar ôl y digwyddiad ar Heol Caerllion am tua 5:15yh, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae ei deulu yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol ar hyn o bryd.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un sydd a gwybodaeth i gysylltu a nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 328 2/2/18.