Mae dau gyn-beldroediwr o Gymru yn wynebu dedfryd o garchar am gymryd £5 miliwn drwy dwyll ar ol sefydlu cwmni prentisiaethau ffug.

Yn Llys y Goron Southwark ddydd Llun (Chwefror 5) cafodd y cyn-chwaraewr i Gymru, Mark Aizlewood, 57, ei farnu’n euog o gynllwynio o dwyllo trwy gynrychiolaeth ffug.

Cafwyd Paul Sugrue, 56, – cyn-chwaraewr i Gaerdydd, Manchester City a Middlesbrough – yn euog o ddau gyhuddiad o gynllwynio i dwyllo trwy gynrychiolaeth ffug drwy eu cwmni Luis Michael Training Cyf.

Cynllun chwaraeon

Roedd y pâr wedi bod yn cynnal cynllun chwaraeon, oedd yn addo darparu cymwysterau arbennig i filoedd o bobol ifanc o ardaloedd difreintiedig, gan hawlio arian gan Lywodraeth San Steffan.

Mewn gwirionedd doedd cannoedd o’u disgyblion honedig ddim yn bodoli, ac er gwaethaf addewid o hyfforddiant llawn amser, roedd rhai o’r disgyblion yn derbyn dwy awr o hyfforddiant yr wythnos yn unig.

Cafodd cyd-gyfarwyddwyr y cwmni, Keith Williams, 45, o Ynys Môn; Christopher Martin, 53, o Berkshire; a’r hyfforddwr pêl-droed Jack Harper, 30, o Lannau Merswy, a oedd hefyd yn rhan o’r cynllun – eu barnu’n euog o droseddau cysylltiedig.

Mark Aizlewood

Roedd Mark Aizlewood wedi gwadu’r cyhuddiadau gan ddadlau na fyddai wedi medru cynnal twyll mor gymhleth, oherwydd yr oedd yn delio â phroblemau iechyd meddwl ei wraig cyn iddi ladd ei hun ym mis Mehefin y llynedd.

Ar anterth ei yrfa yn yr 1980au, roedd Mark Aizlewood, sydd o Aberdâr, yn chwaraewr gwerth £250,000. Mae Paul Sugrue yn hanu o Gaerdydd.

Maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd y barnwr Michael Tomlinson bod yr achos yn un “difrifol iawn” ac y byddan nhw’n cael eu dedfrydu ar 26 Chwefror.