Mae rhybudd am rew ac eira yn ystod y tridiau nesaf yn parhau i fod mewn grym.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer Cymru gyfan, ac fe fydd yn para o 8yh heno tan 3yh ddydd Mercher.

Mae disgwyl y bydd tua 5cm o eira yn syrthio ar diroedd uchel a rhwng 1-3cm mewn mannau eraill, wrth i law droi’n eirlaw ac eira ddydd Mawrth.

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio ei bod yn bosib y bydd rhai ffyrdd a rheilffyrdd yn cael eu heffeithio, ac maen nhw’n cynghori pobol i “gymryd gofal”.