Fe fydd cwmni yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru er mwyn creu bron i 50 o swyddi newydd.

 

Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cyhoeddi heddiw y bydd y cwmni meddygol, Ortho Clinical Diagnostics (Ortho), sy’n rhan o’r sector Gwyddorau Bywyd Cymru, yn derbyn hyd at £960,000 er mwyn creu 49 o swyddi newydd.

Mae Ortho yn gwmni sy’n creu offer ar gyfer profi gwaed, gan ddarparu technoleg soffistigedig sy’n profi ar gyfer afiechydon, cyflyrau a sylweddau gwahanol, ynghyd â sicrhau bod pobol yn derbyn y gwaed priodol ar gyfer trawsblaniadau gwaed.

Mae’r cwmni’n gwasanaethu ysbytai, banciau gwaed a labordai mewn dros 125 o wledydd a thiriogaethau ledled y byd, ac fe fydd y buddsoddiad newydd hwn  yn help i gynyddu safle’r cwmni ym Mhencoed ymhellach, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae Ortho eisoes wedi ehangu’r gwaith cynhyrchu yn sylweddol, ac yn bwriadu ychwanegu llinell gynhyrchu arall yn 2018, ynghyd ag un arall, o bosib, erbyn 2020.

Sector sy’n mynd “o nerth i nerth”

“Mae sector gwyddorau bywyd deinamig Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth,” meddai Carwyn Jones cyn ymweld â’r cwmni heddiw, “ac rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r cyllid hwn a fydd yn helpu i greu bron i 50 o swyddi newydd.”