Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd pob myfyriwr israddedig cymwys yng Nghymru sy’n dechrau yn y brifysgol eleni yn gallu gwneud cais am becyn cymorth ariannol newydd a fydd yn eu helpu i dalu costau byw.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd yn cynnwys y “pecyn mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig”.

Dyma’r pecyn cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, a bydd yn helpu myfyrwyr gyda chostau fel costau llety sef y  “prif rwystr i’r rhai sy’n ceisio penderfynu a allant fynd i brifysgol ai peidio.”

Bwriad y pecyn ariannol yw rhoi mwy o gymorth tuag at dalu costau byw drwy ddarparu’r hyn sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol drwy gyfuniad o grantiau nad oes rhaid eu had-dalu a benthyciadau.

 “Straen”

Meddai Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams: “Mae’n amlwg bod arian yn ffactor pwysig iawn wrth benderfynu pryd i fynd i brifysgol, ac mae arian yn un o’r prif faterion sy’n achosi straen ymysg y rhai sy’n astudio’n barod.

“Gan ystyried hyn, rydym wedi creu pecyn newydd o gymorth i leddfu’r pryderon hyn sydd gan rieni a myfyrwyr. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau heb orfod poeni am sut maen nhw’n mynd i fforddio eu costau byw bob dydd.”

Ychwanegodd: “Ni ddylai costau byw fod yn rhwystr i fynd i brifysgol. Rwyf am i bawb sydd â’r ddawn, y potensial a’r uchelgais i gael y cyfle hwnnw. Boed yn astudio’n llawn amser neu’n cyfuno hynny gyda’ch gyrfa ac astudio’n rhan-amser, dylai prifysgol fod yn opsiwn i bawb, waeth beth yw eich cefndir neu’ch incwm.”

“Cyfleoedd”

Ar drothwy Wythnos Genedlaethol Arian Myfyrwyr (12-16 Chwefror) mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch ymwybyddiaeth i “hyrwyddo manteision prifysgol” yn sgil y ffaith fod mwy o gymorth ariannol ar gael.

Meddai Llywodraeth Cymru: “Elfen allweddol o’r pecyn cyllid newydd i fyfyrwyr yw ei fod yn cynnig pecyn cryfach o gymorth i fyfyrwyr sydd am astudio’n rhan-amser, gan sicrhau bod myfyrwyr israddedig llawn amser a rhan-amser yn cael yr un cyfleoedd. Cymru fydd y wlad gyntaf yn Ewrop i ddarparu cymorth cyfwerth ar gyfer costau byw – mewn grantiau a benthyciadau – i fyfyrwyr israddedig llawn amser a rhan-amser, yn ogystal ag ôl-raddedigion.”

Nod hyn, meddai Llywodraeth Cymru, yw annog myfyrwyr o bob cefndir i fynd i addysg uwch. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn derbyn cymorth cyfwerth ar sail pro-rata.

Gall pob myfyriwr cymwys hawlio isafswm grant o £1,000 na fydd yn rhaid ei ad-dalu, waeth beth yw incwm y cartref. Mae hyn yn rhan o gymysgedd cyffredinol o grantiau a benthyciadau ar gyfer costau byw sy’n gyfwerth â derbyn y Cyflog Byw Cenedlaethol, sydd ar gael i bob myfyriwr cymwys pan fydd yn astudio.

Bydd grantiau yn dibynnu ar brawf modd. Y rhai o gartrefi â’r incwm isaf fydd yn derbyn y grant uchaf – hyd at £10,124 yn Llundain a £8,100 yng ngweddill y DU.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd tua thraean o fyfyrwyr llawn amser yn gymwys i dderbyn y grant llawn. Gall myfyrwyr sy’n derbyn grant llai gael benthyciad i ychwanegu at y swm maen nhw’n ei dderbyn, sy’n gyfwerth â lefel y Cyflog Byw Cenedlaethol.

Argymhellion

Mae incwm cartref cyfartalog myfyriwr dibynnol yn y system gyfredol tua £25,000. O dan y system newydd bydd myfyriwr o’r fath yn derbyn tua £7,000 y flwyddyn mewn grant nad oes rhaid ei ad-dalu.

Daw’r pecyn cymorth ariannol newydd yn dilyn argymhellion adolygiad o gyllid addysg uwch dan arweiniad yr Athro Syr Ian Diamond.

Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru’n dangos bod myfyrwyr Cymru’n gwario 46% o’u hincwm myfyriwr ar eu cwrs a 37% ar fyw. 18% oedd yn cael ei wario ar lety.