Anna Ryder Richardson yn gadael ei pharc bywyd gwyllt

Mae hi a’i gŵr yn ysgaru

Parc bywyd gwyllt Anna Ryder Richardson

Parc bywyd gwyllt Anna Ryder Richardson

Mae’r gyflwynwraig deledu Anna Ryder Richardson wedi cyhoeddi ei bod hi’n gadael ei pharc bywyd gwyllt yn Sir Benfro am fywyd newydd yn Ffrainc.

Wrth gyhoeddi ei hymadawiad, dywedodd fod y fenter ym Mharc Bywyd Gwyllt Manor House wedi arwain at ddiwedd ei bywyd priodasol a bod hi a Colin MacDougall yn ysgaru oherwydd y “straen” o reoli’r parc.

Dywedodd wrth y Daily Mail: “Mae’r dagrau’n cronni o hyd wrth feddwl am gefn gwlad hardd Cymru a’r byd natur. Ces i’r amser gorau yno, ond fe ddaeth yr amser hwnnw’n anodd.

“Roedd gyda ni gymaint o waith i’w wneud fel nad oedden ni’n gweld ein gilydd.”

Ychwanegodd ei bod hi “wedi colli tipyn o hyder… a phwysau”.

Dywedodd fod y pâr yn “gwpl oedd â phopeth, ond rywsut aeth y cyfan ar goll”.

Y parc

Prynodd Anna Ryder Richardson a Colin MacDougall y parc yn 2008 a gwneud tipyn o waith adfer ar yr adeiladau. Roedd y parc yn destun rhaglen deledu ITV yn y dyddiau cynnar hynny.

Roedd angen gwneud £600,000 y flwyddyn er mwyn cynnal y parc, a dywed fod hynny wedi arwain at gryn dipyn o ffraeo.

“Fe ddechreuais i sylweddoli ’mod i’n annioddefol gydag arian, cynlluniau busnes a phethau felly. Aeth yr holl bethau technegol dros fy mhen.”

Ychwanegodd ei bod hi, yn y pen draw, wedi cael ei gwahardd rhag mynd i gyfarfodydd.

Penderfyniadau anodd

Er mwyn arbed arian, penderfynodd y cwpl fynd i fyw mewn cabin ar safle’r parc tra bod un o’r prif adeiladau’n cael ei droi’n ganolfan ymwelwyr.

Dywedodd eu bod nhw wedi gwario cannoedd o filoedd o bunnoedd ar gartrefi i’r anifeiliaid tra eu bod nhw’n “rhewi” mewn cabin – a bod “eironi” yn y ffaith fod yr anifeiliaid yn well eu byd na nhw.

Ychwanegodd nad oedden nhw’n gyfforddus, ychwaith, yn llygaid y cyhoedd yn sgil y parc.

Penllanw hynny oedd achos llys yn 2010, pan gafodd bachgen tair oed anafiadau wrth i goeden ei daro fe a’i fam.

Plediodd Colin MacDougall yn euog, a doedd dim achos yn erbyn Anna Ryder Richardson yn y pen draw.

Dyna oedd “dechrau’r diwedd, o bosib” i’w priodas.

Dywedodd y byddai’n gadael y parc “â chalon drom”.

← Stori flaenorol

Rhybudd am “oblygiadau byd eang” i’r cynhesu yn yr Arctig

Mae Siberia wedi profi tymereddau sydd 10C yn gynhesach eleni na’r hyn a fyddai’n arferol

Stori nesaf →

Tridiau o eira i Gymru?

Y cyfnod oeraf y gaeaf hwn, yn ôl y Swyddfa Dywydd

Hefyd →

Angen “blaenoriaethu arallgyfeirio” ar ôl i gwmni arall dynnu’n ôl o Faes Awyr Caerdydd

Daw sylwadau’r Ceidwadwyr Cymreig wedi i Eastern Airways ddod â’r llwybr o Gaerdydd i Paris i ben