Mae Carwyn Jones yn rhagweld y bydd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn gwneud tro pedol ac yn addo cadw Prydain o fewn Undeb Tollau’r Undeb Ewropeaidd.

Ar ôl trafod y mater gyda Jeremy Corbyn a Syr Keir Starmer, Ysgrifennydd Brexit yr Wrthblaid, mae Prif Weinidog Cymru’n credu bod newid polisi yn debygol o fewn yr ychydig fisoedd nesaf.

“Mae Jeremy yn ddigon clyfar i ddeall bod hon yn drafodaeth sydd angen ei hystyried o’r newydd o bryd i’w gilydd, ond yn bennaf oll rhaid iddi gael ei harwain gan yr hyn sydd orau i bobl Prydain,” meddai Carwyn Jones mewn cyfweliad gyda gwefan newyddion The Independent.

“Nid Brexit caled, sy’n golygu codi rhwystrau rhyngom ni a’n marchnad fwyaf, yw’r dewis iawn.

“Byddai gadael yr Undeb Tollau yn ffolineb economaidd, gan ei fod yn gam sy’n cael ei yrru gan ideoleg a chenedlaetholdeb, nid gan synnwyr cyffredin a phragmatiaeth.”

Rhybuddio Theresa May

Mae Carwyn Jones yn rhybuddio Theresa May y gallai greu argyfwng cyfansoddiadol os bydd yn anwybyddu barn seneddau Cymru a’r Alban ar Fesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Dylai arweinwyr Cymru a’r Alban gael mwy o lais yn y penderfyniadau sy’n ymwneud â Brexit,” meddai.

Dywed fod Theresa May yn un ddigon anodd trafod â hi gan nad yw hi’n rhoi atebion manwl i gwestiynau.

“Yn y cyfarfodydd dw i ddim yn cael llawer o wybodaeth,” meddai. “Os ydw i’n gofyn cwestiynau dw i’n tueddu i gael atebion ystrydebol. Dydyn ni ddim wedi cael trafodaeth o ddifrif ar bethau – dyna’r broblem.

“Mae hyn yn eithaf bisâr mewn ffordd nad ydw i wedi’i weld o’r blaen. Gordon Brown oedd y Prif Weinidog pan ddois i’n Brif Weinidog Cymru, ac wedyn fe ddaeth David Cameron. Roedd llawer mwy o drafodaeth i’w gael gan David Cameron na Theresa May. Yn aml, doedden ni ddim yn cytuno â’n gilydd, ond o leiaf roedd cyd-drafod.

“Ei phersonoliaeth yw hyn – dyna sut un yw hi.”