Mae tri o ardal Caerdydd – dau ddyn a menyw – wedi cael eu carcharu ar ôl cael eu dyfarnu’n euog o wyngalchu miloedd o bunnoedd o arian.

Cafodd Ebrahim Ege, 33 oed o Gaerdydd ddedfryd o bedair blynedd o garchar, ac Amer Aslam, 35 oed o Gaerdydd, ac Emma Cummings, 30 oed o Benarth, ddedfrydau o 18 mis yr un.

Cafodd y tri eu dyfarnu’n euog gan Lys y Goron Casnewydd ar ôl ymchwiliad ledled de Cymru i wyngalchu arian a gychwynnodd yn 2010.

Meddai Lee Jones, ymchwilydd ariannol a arweiniodd yr ymchwiliad:

“Dangosodd y dystiolaeth fod arian o ffynonellau anhysbys wedi cael ei ddefnyddio i brynu cerbydau moethus o werth uchel a sawl eiddo yn ardal Caerdydd. Ar adegau, cafodd cyfrifon trydydd parti eu defnyddio i guddio gwir ffynhonnell yr arian.

“Cafodd taliadau ag arian brwnt eu gwneud i brynu rhai o’r cerbydau a rhai o’r eiddo yn uniongyrchol.”

Ceir drud

Clywodd y llys fod y troseddwyr yn prynu ceir o werth uchel, gan gynnwys ceir Porsche, BMW ac Audi a Mercedes-Benz SLK AMG a C63 AMG. Roedden nhw hefyd wedi prynu sawl eiddo yn Mandeville Place ac ar Tudor Street a Mark Street yng Nghaerdydd ac ar Gladstone Road yn y Barri, gan dalu am lawer o’r rhain mewn arian parod.

Roedd y tri yn byw yn fras ac yn teithio’n rheolaidd i Dubai, Abu Dhabi a chyrchfannau pell eraill, gan aros mewn gwestyau 5* yn aml.

Er gwaethaf eu ffordd o fyw, cyflwynodd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi dystiolaeth yn dangos nad oedd y cynllwynwyr wedi datgan fawr ddim incwm cyfreithlon ond eu bod wedi gwyngalchu mwy na £500,000 mewn arian.