Mae diogelu’r farchnad bresennol â’r Undeb Ewropeaidd yn bwysicach ar hyn o bryd na cheisio cytundebau masnach newydd â gwledydd eraill, yn ôl NFU Cymru.

Wrth groesawu papur Brexit Llywodraeth Cymru, Y Polisi Masnach: Materion Cymru, dywed Llywydd yr undeb, John Davies, ei fod yn cytuno’n llwyr â’r alwad am gynnal mynediad dilyffethair â’r Farchnad Sengl.

“Mae traean o holl gynnyrch cig oen Cymru’n cael ei werthu i’r farchnad Ewropeaidd, a byddai gorfod gweithredu o dan dollau Cyfundrefn Fasnach y Byd yn cau ffermwyr Cymru allan o’r farchnad holl bwysig hon,” meddai.

“Y flaenoriaeth ar hyn o bryd yw bod llywodraeth Prydain yn sicrhau cytundeb masnach â gwledydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n rhydd o dollau ac unrhyw rwystrau eraill, ac sy’n cynnwys pob sector gan gynnwys amaethyddiaeth.”