Mae rhywogaeth o ymlusgiaid a oedd yn byw dros 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl wedi cael eu darganfod mewn ffosiliau o chwarel ym Mro Morgannwg.

Mae’r rhywogaeth wedi cael ei enwi fel Clevosaurus cambrica i nodi ei darddiad Cymreig.

Cafodd y ffosiliau eu casglu’n wreiddiol o chwarel Pant-y-ffynnon gerllaw’r Bontfaen yn ystod yr 1950au.

Yn ddiweddar, fe fu myfyrwraig o Brifysgol Bryste, Emily Keeble, yn astudio’r ffosiliau fel rhan o’i hastudiaethau ar gyfer ei gradd palaeontoleg.

“Roedd y Clevosaurus cambrica yn byw ochr yn ochr â deinosor bach, Pantydraco, ac anifail cynnar arall tebyg i grocodeil,” meddai.

“Fe wnaethon ni ei gymharu ag enghreifftiau eraill o Clevosaurus o leoliadau o amgylch Bryste a de Swydd Gaerloyw, ond mae’n bwystfil newyddd yn bur wahanol o ran trefniant ei ddannedd.”

Mae chwareli calchfaen de Cymru a de-orllewin Lloegr â llawer o ogofâu sy’n cynnwys ffosiliau rhywogaethau bach o ymlusgiaid a oedd yn cyd-oesi â deinosoriaid.

Caiff yr ymchwil ei gyhoeddi yn nhrafodion Cymdeithas y Daearegwyr.