Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi canmol cwrs Cymraeg arloesol i athrawon.

Wrth ymweld â champws prifysgol y Drindod yng Nghaerfyrddin ddoe, cafodd Eluned Morgan gyfle i gyfarfod rhai o’r athrawon ar y cwrs, sydd wedi cael eu rhyddhau am flwyddyn gyfan o’u gwaith er mwyn dysgu Cymraeg.

Mae’r cwrs Cymraeg mewn Blwyddyn yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru o gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae’r sector Addysg yn allweddol os ydym am gyrraedd miliwn o siaradwyr – o ran cynyddu’r nifer o ysgolion Cymraeg ac o ran gwella a chynyddu addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg,” meddai Eluned Morgan.

“Mae’r cynllun sabothol yn chwarae rhan bwysig iawn yn hyn o beth drwy wella gallu athrawon sydd eisoes yn y system i helpu i fodloni’r cynnydd yn y galw.

“Roedd yn hynod ddiddorol gwylio rhan o’r sesiwn a sgwrsio yn Gymraeg gyda’r rhai gymerodd ran i ddysgu am eu profiadau ar y cwrs a’u cynlluniau ar ôl dychwelyd i’w hysgolion.

“Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad i’r iaith a dw i’n gobeithio y bydd y cwrs hwn yn rhoi’r hyder iddyn nhw wneud gwahaniaeth pan fyddant yn ôl yn yr ystafell ddosbarth.”