Parhau mae ymchwiliadau’r heddlu i wrthdrawiad angheuol ar yr A55 ym Môn nos Lun.

Wrth gyhoeddi teyrnged i Derwyn Alun Jones gan ei deulu, mae’r heddlu’n apelio am breifatrwydd iddyn nhw.

“Mae colli Derwyn – tad, mab a brawd hoffus – wedi torri’n calonnau,” meddai ei deulu yn eu teyrnged iddo. “Bydd ei deulu a’i ffrindiau yn ei golli’n fawr.”

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ychydig cyn 7 o’r gloch nos Lun ar yr A55 tua’r gorllewin rhwng cyffyrdd 6 a 5, pryd y cafodd cerddwr ei daro gan gar Vauxhall Meriva.

Mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un a oedd yn teithio ar yr A55 ym Môn rhwng 6 a 7 gysylltu â’r Uned Plismona Ffyrdd ar 101 gan nodi rhif cyfeirnod W011378.