Bydd cwmni dur Tata yn buddsoddi £14 miliwn yn eu safle ym Mhort Talbot, ychydig fisoedd ar ôl iddo gyhoeddi £30 miliwn ychwanegol i’r safle.

Yn ôl datganiad Tata, bydd yr arian yn mynd i ddatblygu ei felin strip boeth, a fydd yn helpu i greu dur o well safon ac yn golygu bod y dur yn gallu oeri’n gyflymach.

Byddai hynny’n golygu cynyddu capasiti’r safle yn y de a chreu 150,000 o dunelli o ddur ychwanegol bob blwyddyn.

Mae Tata yn dweud y bydd y datblygiad yn arwain at greu dur ar gyfer ceir trydan a hybrid, ynghyd â chartrefi ynni-effeithlon.

“Mae’r buddsoddiad hwn wedi creu platfform cryfach, mwy effeithlon a dibynadwy, lle gallwn ni ateb galwadau ein cwsmeriaid,” meddai Jon Ferriman, Cyfarwyddwr Cynnyrch Strip Tata yn y Deyrnas Unedig.

Mae tua 4,000 yn gweithio ar safle Tata ym Mhort Talbot.