Mae’r Cymry ymhlith y bobol fwyaf cariadus yng ngwledydd Prydain, yn ôl arolwg newydd gan y cwmni gwerthu blodau, Bloom & Wild.

Mae Cymru yn drydydd ar restr o lefydd yng ngwledydd Prydain sy’n cael eu cyfrif fel y rhai mwyaf cariadus – gyda dim ond de-ddwyrain Lloegr a Gogledd Iwerddon yn uwch ar y rhestr.

Nod yr arolwg oedd darganfod pa mor aml mae pobol yn mynegi eu cariad i’w partneriaid, ynghyd â gofyn a ydy’n nhw’n derbyn anrhegion neu flodau ar Ddydd Sant Ffolant.

Yr Alban oedd ar waelod y rhestr, gyda’r Albanwyr yn llai tebygol o ddathlu Dydd Sant Ffolant a theimlo’n gyfforddus yn dweud “dw i’n dy garu” wrth eu partneriaid.

Roedd yr arolwg hefyd yn dangos:

 

  • mai pobol rhwng 25-34 yw’r rhai mwyaf awyddus i dderbyn blodau ar Ddydd Sant Ffolant;
  • dim ond 58% o bobol yn y Deyrnas Unedig sy’n dweud “dw i’n dy garu” i’w partneriaid o leiaf unwaith yr wythnos neu ragor;
  • pobol sydd dros 65 oed yw’r rhai sy’n mynegi eu cariad lleiaf.