Mae’r heddlu yn Sir Benfro wedi dal gyrrwr yn gyrru car heb deiar ar un o’r olwynion.

Yn ôl uned ffyrdd Heddlu Dyfed-Powys, roedd y Peugot 16 oed mewn cyflwr “peryglus”, gydag un o’r teiars blaen ar goll.

Mae nhw hefyd yn dweud nad oedd gan y car yswiriant nag MOT, a bod y gyrrwr ond wedi pasio ei brawf gyrru fis Tachwedd y llynedd.